Cardiff University

Ymgysylltu â busnesau yn ein gwaith | Engaging Businesses in our work

Informações:

Sinopse

Croeso i'n cyfres o bodlediadau misol Ymgysylltu â'r Cyhoedd. Tiwniwch i mewn wrth i ni fynd ar daith i ddathlu'r gwaith pwysig o ymgysylltu â grwpiau cyhoeddus. Ymunwch â ni wrth i ni drafod a dathlu pynciau amrywiol - boed straeon ysbrydoledig neu drafodaethau sy'n ysgogi'r meddwl. Bydd cydweithwyr o bob cwr o'r Brifysgol yn ymuno â ni ynghyd â gwesteion arbennig i rannu eu profiadau, eu syniadau a’u harferion treiddgar. Yn y bennod hon, byddwn ni’n dysgu sut y gallwn ni ymgysylltu â busnesau drwy ein gwaith mewn Addysg Uwch, gan sicrhau bod anghenion busnesau yn cael eu hadlewyrchu, beth bynnag yw maint y sefydliad. Byddwn ni’n clywed gan gydweithwyr sydd wedi gweithio gydag amrywiaeth o fusnesau, ac wedi cefnogi disgyblaethau ym mhob rhan o’r Brifysgol, sy'n gallu rhannu’r gwersi a ddysgwyd ganddyn nhw yn sgil eu profiad. Bydd ein siaradwyr yn cynnwys Sarah Lethbridge a Linda Hellard (Ysgol Busnes), Audra Smith (Y Gwasanaeth Ymchwil) a Rhys Pearce-Palmer (Medicentre Caerdydd ac Arloesedd Caerdydd). We